Mae Cylch Meithrin Penmaenmawr yn un o hoelion wyth addysg cychwynol ym Mhenmaenmawr ers dros 40 mlynedd. Ymysg un o'r cylchoedd meithrin Cymraeg hynaf yng Nghymru.

Caiff ei arolygu yn rheolaidd gan ESTYN, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Mudiad Ysgolion Meithrin.

Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gref rydym ni wedi’i meithrin gyda rhieni a gwarcheidwaid dros y blynyddoedd, ac mae gennym ni draddodiad cryf o ddarparu addysg cyn ysgol o safon uchel.

Rydym yn croesawu’r rhieni/gwarcheidwaid i ymwneud â phob agwedd o fywyd Cylch Meithrin Penmaenmawr, ac, yn wir, rhieni sy’n bennaf gyfrifol am godi arian. Fel rhieni ein hunain, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg orau yng Nghylch Meithrin Penmaenmawr.

Cymraeg yw iaith y Cylch Meithrin ond rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref, gyda nifer gynyddol yn ymuno â ni ddim yn dysgu Cymraeg. Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch neu dod draw i ymweld â'r safle mae croeso i chi gysylltu â ni.

Gweithgareddau: 

  • Amser Cylch

  • Canu

  • Croesi'r Bont

  • Dewin a Doti

  • Ardaloedd tu allan

  • Coginio

  • Offer TGCH

  • Byrddau gwyn rhyngweithiol.

  • Adeiladau

  • Paentio

  • Adnabod llythrennau a rhifau,

  • Dysgu rheolau,

  • Arbrofi gyda bwydydd,

  • Datblygu perthynas.

  • Llythrennedd,

  • Rhifedd,

  • Datblygiad Corfforol,

  • Datblygiad Cymdeithasol.

Oriau / Ffioedd

Bydd y cylch ar agor bob dydd (yn ystod tymor ysgol) ac yn cynnig tri opsiwn:

Clwb Brecwast 8yb - 9yb

£?

Sesiwn 9yb - 12yp

£?

Sesiwn 9yb - 1yp

£?

Mae'r ffioedd hyn yn unol â chyfraddau Llywodraeth Cymru ac yn cael eu gwerthuso yn flynyddol. 

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed). 

Mae 30 awr yn cynnwys:

Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth

Lleoliad 

Ysgol Pencae,

Ffordd Graiglwyd,

Penmaenmawr,

Conwy.

LL34 6YG

Gan ddilyn rheoliadau AGC, mae gofyn i gymhareb staff i blant gael ei ddilyn sef 1:8 dros dair oed, 1:4 i blant dwy oed. Mae’r Cylch yn derbyn plant newydd o’r diwrnod y byddant yn troi’n 2 oed, os oes lle.

Cysylltwch â ni.

ebost: cylchmeithrinpen@gmail.com